Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

28 Tachwedd 2022

SL(6)283 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae paragraff 5(1B) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”) yn darparu y caiff cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru (“awdurdod bilio”) gyflwyno hysbysiad i bersonau penodol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â hereditament yn ardal yr awdurdod bilio hwnnw. Mae’r personau hynny’n cynnwys person sy’n cynnal busnes mewn perthynas â’r hereditament hwnnw, o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu disgrifiadau o’r mathau o fusnes a gynhelir gan berson mewn perthynas â hereditament.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff awdurdod bilio beri bod hysbysiad yn cael ei gyflwyno i berson y mae paragraff 5(1D) o Atodlen 9 i’r Ddeddf yn gymwys iddo.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: Heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2023

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

28 Tachwedd 2022

SL(6)284 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau hyn”) yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (“Deddf 2020”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu Cynllun ar gyfer rhoi grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru. Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf 2020 yn pennu’r dibenion y caniateir rhoi cymorth ariannol ar eu cyfer.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol cyffredinol. Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer sefydlu’r Cynllun. Mae Rhan 3 yn cyfansoddi’r Cynllun ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau. Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau neu wneud benthyciadau mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi ar ba sail y caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau ac maent yn gosod gweithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau. Cyn talu grant neu fenthyciad rhaid bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ar y gwariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, ac y cydymffurfir ag unrhyw amodau cymeradwyo.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu bod talu grant neu fenthyciad yn amodol ar y ceisydd yn cadw cofnodion perthnasol ac yn hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau. Gall Gweinidogion Cymru amrywio, atal dros dro a dirymu’r penderfyniad i gymeradwyo cais am grant neu fenthyciad a chânt, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu grant neu fenthyciad os na chaiff rhai amodau penodol eu bodloni (gydag unrhyw symiau sydd heb eu had-dalu yn cael eu hadennill yn y pen draw fel dyled sifil).

Caniateir cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau’n ymwneud â cheisiadau am grantiau a benthyciadau a hysbysiadau am amrywiadau, ataliadau dros dro a dirymiadau. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad yn dilyn sylwadau o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaeth orfodi i swyddogion gorfodi morol a benodir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”). Mae a wnelo’r swyddogaeth â gorfodi unrhyw droseddau posibl a gyflawnir mewn perthynas â chais am grant neu fenthyciad o dan y Cynllun (er enghraifft, trosedd o dan Ddeddf Twyll 2006). Caiff pwerau gorfodi perthnasol ar gyfer swyddogion gorfodi morol o dan Ran 8 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 eu cymhwyso hefyd at ddibenion y swyddogaeth hon.

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli cyfres flaenorol o reoliadau drafft a osodwyd ar 27 Medi 2022 ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (“y Pwyllgor”) yn ei gyfarfod ar 17 Hydref 2022, pan gyhoeddwyd adroddiad a oedd yn cynnwys nifer o bwyntiau adrodd. Mae’r Rheoliadau diwygiedig hyn wedi’u gosod i fynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad hwnnw.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r ffaith bod asesiad effaith rheoleiddiol manwl wedi’i gynnwys yn y Memorandwm Esboniadol diwygiedig sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau hyn (mewn ymateb i bwynt adrodd 6 yn ei adroddiad blaenorol).

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Pysgodfeydd 2020

Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: Heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 1 Rhagfyr 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

28 Tachwedd 2022

SL(6)285 - Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Diben Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (y “Rheoliadau”) yw nodi'r categorïau o bobl sydd wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd o dan ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae'r Rheoliadau yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022, ac yn mynd i'r afael â'r pwyntiau technegol a godwyd gan y Pwyllgor wrth graffu ar y rheoliadau hynny.

Ni chaiff pobl sydd wedi'u hanghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn weithredu fel gwarchodwyr plant yng Nghymru, darparu gofal dydd na bod ynghlwm wrth reoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd.

Mae’r Rheoliadau’n diweddaru’r rhestr o droseddau, gorchmynion a phenderfyniadau sy’n anghymhwyso rhywun rhag gweithio mewn gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru.

Mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau yn cynnwys rhagor o droseddau ychwanegol y tu hwnt i'r rhai sy'n ymddangos ar hyn o bryd yn y rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr. Mae’r rhain yn cynnwys troseddau sy’n gysylltiedig â voyeuriaeth a’r defnydd o drais, bygythiadau neu unrhyw fath o orfodaeth i orfodi person arall i briodi.

Mae’r Rheoliadau’n dileu darpariaethau sy’n anghymhwyso pobl rhag cael eu cofrestru i ddarparu gofal plant rheoleiddiedig ar sail y ffaith eu bod yn byw gyda rhywun sydd wedi’i anghymhwyso neu fod rhywun sy’n gweithio yn eu haelwyd wedi’i anghymhwyso. Mae'r Rheoliadau hefyd yn dileu rhai anghysondebau yn y rheoliadau presennol i sicrhau nad yw pobl sydd wedi bod yn destun Gorchymyn Gofal neu Orchymyn Goruchwylio eu hunain yn y gorffennol yn cael eu hanghymhwyso'n awtomatig rhag cofrestru.

Rhiant-Ddeddf: Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Fe’u gwnaed ar: 14 Tachwedd 2022

Fe’u gosodwyd ar: 15 Tachwedd 2022

Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(2)